P-05-804 Mae angen cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer chwarae!!
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan RAY Ceredigion ac ystyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor yn ystod Mawrth 2018, ar ôl casglu 328 o lofnodion ar-lein.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ddarparu cyllid dynodedig blynyddol i roi cymorth ariannol i bob Awdurdod Lleol wrth gyflawni eu dyletswydd yn unol â'u hasesiad o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae er mwyn osgoi cau darpariaethau chwarae agored megis RAY Ceredigion
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Ceredigion
· Canolbarth a Gorllewin Cymru